Breakthro Caerfyrddin’

Darparu gwasanaethau proffesiynol i gefnogi teuluoedd plant ag ystod o anableddau

Mae'r gwasanaeth dydd hwn yn cynnig seibiant amhrisiadwy i deuluoedd a gofalwyr gan ddarparu amgylchedd diogel, hwyliog a chyfeillgar i'r plant.

Elusen fach, annibynnol yw Breakthro’ Caerfyrddin sy’n darparu gweithgareddau hamdden, cymdeithasol a hwyliog i blant pedair i ddeunaw oed sydd ag anghenion a/neu anabledd corfforol, sy’n byw yn ardal Caerfyrddin a’r cyffiniau.

Rydym yn cynnal clwb dydd Sadwrn trwy’r flwyddyn a chynlluniau chwarae amrywiol yn ystod gwyliau ysgol.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol a/neu anabledd corfforol ac yn teimlo y gallech chi elwa o’r gwasanaeth sydd gennym i’w gynnig, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’ch gweithiwr allweddol yn nhîm plant anabledd Caerfyrddin er mwyn cael eich cyfeirio.

Rydym bob amser yn croesawu newydd-ddyfodiaid gyda breichiau agored...

Cyfleusterau

Ardal newid gyda gwely sy’n gallu cael ei addasu o ran taldra a theclyn codi symudol

Ardal chwarae agored gyda digon o adnoddau yn cynnwys teganau, llyfrau a chornel tawel

Ardal chwarae meddal yn cynnwys pwll peli wal du er mwyn fоd yn creadigl.

Large field, sand pit, swings and plenty of room to run around. Tarmacked area for riding trikes, scooters and playing.

Maes Chwarae

Yn sgil derbyn grantiau wrth y “Wooden Spoon Charitable Trust” a’r Cronfa Loteri Genedlaethol gosodwyd lle chwarae newydd yn Hydref 2020.
Mae’r lle chwarae yn cynnwys:

  • Siglen ar gyfer cadair olwyn.
  • Amryw o siglenni gwahanol.
  • Trampoline.
  • Cylch dro.

Mae’r lle chwarae yn cynnig amryw o gyfleoedd ar gyfer pob unigolyn ac oriau o hwyl yn yr awyr agored.

Dyddiau Allan

Bws mini

Ar ôl tua 4 blynedd o godi arian, yn mis Medi 2020 derbyniodd yr elusen ei bws mini newydd.
Hoffwn ddioch i ffrinidiau, y gymuned. sefydliadau ac unigolion niferus am ei haelondeb wrth gasglu a chyfrannu tuag at ein bws mini newydd.

Mae ein diolch hefyd yn fawr i Mrs Sarah Powell - rhiant ac aelod o’r pwyllgor rheoli am ei gwaith ddiflino wrth drefnu a chynnal nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus gan hynnwys Gwledd Cyfannol yn ystod Mehefin 2019.

Mae’r bws mini yn cynnwys lifft ar gyfer cadeiriau olwyn, sydd yn golygu fod y bws yn addas ar gyfer pob unigolyn sydd yn mynychu Breakthro.

Mae’r bws mini newydd yn ein galluogi i gynnig nifer o gweithgareddau oddi ar y safle, i enhangu profiadau a chynnig cyfleuoedd newydd i’r unigolion yn ein gofal.

Glendid bwyd

Rydym yn falch o dderbyn sgôr glendid bwyd o 5 o ganlyniad i:

  • Pob aelod o staff yn mynychu ac llwyddo mewn cwrs Glendid Bwyd Lefel 2.
  • Cofnodi tymheredd oergell yn ddyddiol.
  • Cymryd a chofnodi tymheredd bwyd cyn ei gweini.
  • Storio bwyd a chynhwysion yn gywir.
  • Cadw’r orsaf baratoi bwyd yn glir ac yn glan a’i ddiheito ar ôl ei defnyddio.

Gwirfoddoli

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli o fewn ein mudiad, yna cysylltwch ag Emyr:

07772 078634

admin@carmarthen-breakthro.co.uk

CIW Report (English)

CIW Report (Welsh)

Statement of Purpose

cyWelsh